Annwyl blant,
Diolch i chi am ddilyn y cliwiau a sganio'r cod QR a wnes adael i chi. Fy enw i yw Steve ac rydych wedi cael eich dewis ar gyfer taith arbennig iawn. Yr wyf yn gaeth yma ym Mharc Treftadaeth y Rhondda ac ni allaf adael i adeiladu unrhyw beth o gwbl!
Er mwyn i mi gyrraedd adref, mae angen i mi a chi ddefnyddio Minecraft ac adeiladu Parc Treftadaeth y Rhondda. I wneud hyn bydd angen i chi ddod i ymweld ag i ddarganfod yn union beth fydd angen i chi adeiladu.
Ail ran eich daith yw ymchwilio sut/beth oedd bywyd yn y Rhondda pan roedd cloddio am lo yn brif ffynhonnell cyflogaeth. Bydd eich athro yn rhoi ardal benodol i chi ymchwilio a hoffwn i chi ddefnyddio llawer o TGCh i arddangos eich canfyddiadau. Nid ydych yn ei ben ei hun ar y daith hon - Yr wyf wedi dewis a dethol pymtheg o ysgolion eraill i fy helpu. Yn ystod y daith bydd angen i chi gyd-weithio gyda’r ysgolion hyn er mwyn fy achub ac fy arwain adref yn ddiogel. Rwyf wedi creu tudalen Hwb + i chi gyfathrebu a rhannu eich gwaith gyda'ch gilydd.
Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i gyd a rhannu eich holl waith - yn enwedig eich creaduriaid Minecraft.
Cofiwch fy mod yn dibynnu arnoch chi!
Yn gywir,
Steve